WIR 01

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon | Wales-Ireland relations

Ymateb gan: Cyngor Celfyddydau Cymru &  Celfyddydau Rhyngwladol Cymru | Response from: Arts Council of Wales PUBLIC / CYHOEDDUS & Wales arts International

 

 

Cyflwyniad

 

 

1.      Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus swyddogol sy'n gyfrifol am ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Rydym ni'n atebol i Senedd Cymru ac yn gyfrifol i Lywodraeth Cymru am y ffordd mae'r arian y maen nhw'n ei ddarparu i ariannu'r celfyddydau yng Nghymru yn cael ei wario. Rydym hefyd yn ddosbarthwr arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.

 

2.      Mae'r dystiolaeth hon yn cael ei chyflwyno gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi ei llywio gan wybodaeth a phrofiad ein hasiantaeth fewnol ryngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

 

Cysylltiadau Cymru-Iwerddon wedi brecsit

 

3.      Ar ôl brecsit, atgyfnerthwyd pwysigrwydd Iwerddon fel ein cymydog agosaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar lefel ddiwylliannol, mae parodrwydd i barhau â chydweithrediadau rhwng y sectorau celfyddydol, ond fel gyda llawer o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, mae'r canfyddiad o'r Deyrnas Unedig wedi newid ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ac ymadael â’r Undeb. Bu'n rhaid i ni gynyddu ein hymdrechion i barhau i gefnogi a chryfhau cysylltiadau ag Iwerddon.

 

4.      Mae bodolaeth yr Ardal Deithio Gyffredin wedi parhau ac felly mae wedi mynd rhywfaint o'r ffordd i alluogi symud pobl rhwng Cymru ac Iwerddon sy'n ddefnyddiol yn sector y celfyddydau wrth weithio ar draws ffiniau ar brosiectau tymor byr a thymor hwy. Fodd bynnag, mae'r newidiadau o ran symud nwyddau wedi bod yn un y mae sector y celfyddydau (yn enwedig y celfyddydau perfformio a'r celfyddydau gweledol) wedi gorfod ymaddasu iddyn nhw.

 

5.      Mae ein menter, Cefnogi ymweliadau creadigol i’r DU ac o’r DU | Arts Infopoint UK | Gwybodfan Celf y Deyrnas Unedig, mewn partneriaeth â'n chwaer gynghorau celfyddydau ar draws y Deyrnas Unedig, wedi cefnogi'r sector wrth edrych ar faterion ymarferol i artistiaid gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddod i'r Deyrnas

 

Unedig, ond hefyd gyda mynd i’r Undeb Ewropeaidd gan fod llawer o gwestiynau ymarferol wedi'u codi gan y sector. Byddwn yn edrych ar ddatblygu gwybodaeth benodol i artistiaid sy'n gweithio rhwng Prydain ac Iwerddon yn ddiweddarach yn 2023.

 

 

Ymagwedd bresennol at ymgysylltu dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon ac a yw'n addas i'r diben ar ôl brecsit

 

6.      Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru a swyddfa Llywodraeth Cymru yn Iwerddon. Er enghraifft, roeddem wedi helpu i gynnal digwyddiadau wythnos Cymru yn Nulyn 2020. Lansiom ni hefyd ein deialog Gwrando - Dewi Padraig ym mis Mai 2022 yn Nulyn.

 

7.      Roedd cael swyddfa Llywodraeth Cymru yn Iwerddon a sefydlu Is-gennad Iwerddon yng Nghaerdydd a'r gefnogaeth a roddwyd gan y ddwy lywodraeth yn benodol i sector y celfyddydau a diwylliant o fudd i sector y celfyddydau yng Nghymru wrth ddatblygu cysylltiadau ag Iwerddon.

 

8.      Er ein bod yn dal i weld effaith lawn ar ôl brecsit (ac ar ôl y pandemig) ar waith rhyngwladol yn sector y celfyddydau, rydym yn ailadrodd bod angen hyd yn oed rhagor o ymdrechion ar ôl brecsit i ddatblygu a chryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon.

 

 

Y Datganiad a Rennir Cymru-Iwerddon a Chynllun Gweithredu ar y Cyd (2021-2025) fel dull o ymgysylltu rhyngwladol

 

9.      Er bod rhai meysydd (er enghraifft, Gwybodfan Celf y Deyrnas Unedig) lle rydym ni'n gweithio ar draws 4 gwlad y Deyrnas Unedig gydag Iwerddon, mae'n ddefnyddiol iawn i ni gael dull a chynllun penodol i Gymru, gan fod yma ddiwylliant wedi'i ddatganoli ac oherwydd inni allu cael perthynas ddwyochrog â'n hasiantaethau cyfatebol yn Iwerddon.

 

10.  Croesawom gynnwys Diwylliant, Iaith a Threftadaeth fel thema allweddol yn y Datganiad a Rennir. Un o'r camau gweithredu yw "cefnogi'r berthynas gref a chynyddol rhwng ein Cynghorau Celfyddydol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Diwylliant Iwerddon drwy gyfarfodydd grŵp o randdeiliaid rhithiol i ddatblygu a gwella cydweithio ymhellach". Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi parhau i feithrin y berthynas rhwng yr asiantaethau, gyda'r bwriad o ailsefydlu'r grŵp rhanddeiliaid rhithiol nawr y cafwyd newidiadau mewn uwch arweinyddiaeth ym mhob un o'r 3 asiantaeth dros y 2 flynedd ddiwethaf.

 

 

Ariannu prosiectau cydweithredu a chydweithio yn y dyfodol rhwng Iwerddon a Chymru

 

11.  Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cefnogi nifer o brosiectau artistig drwy gyfuniad o'n Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol a rhywfaint o arian strategol. Er enghraifft, yn 2022 cefnogwyd arddangosfa unigol yr artist gweledol Sean Edwards, Chased Losses, yn Oriel a Stiwdios Bar y Deml, Dulyn yn ogystal â gosodiadau golau a sain Jony Easterby Remnant Ecologies fel rhan o Ŵyl Ymylol Dulyn. Rydym ni wedi cefnogi cerddorion ac artistiaid Cymraeg i gymryd rhan mewn perfformiadau cydweithiol yn y Gaeltacht drwy Gymdogion Celtaidd yn 2019 a 2022. Cynhaliom REIC x Y Stamp, perfformiad Barddoniaeth a Gair Llafar amlieithog i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2020 i archwilio’r cysylltiadau gweithredol rhwng y beirdd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan Ciara Ní É, Dairena Ní Chinnéide, Taylor Edmonds, Llio Maddocks a Siân Miriam yn Gymraeg, Gwyddeleg a Saesneg.

 

12.  Rydym hefyd wedi treialu Cronfa Ryngwladol y 4 Gwlad yn 2022, gyda nifer o brosiectau Deyrnas Unedig / Iwerddon (gyda phartneriaid yng Nghymru). Un enghraifft yw'r cywaith rhwng Gŵyl Articulture / y Dyn Gwyrdd (Cymru); Articulation / Surge (Yr Alban); Out There Arts (Lloegr) ac ISACS / Gŵyl Spraoi (Iwerddon). Roedd y grant, ochr yn ochr ag arian arall, yn cefnogi datblygu artistiaid a chyfleoedd rhwydweithio proffesiynol ynghyd â theithio gweithiau celf awyr agored ar draws yr holl genhedloedd.

 

13.  Fodd bynnag, symiau cymharol fach yw'r rhain, ac mae sector y celfyddydau yng Nghymru yn teimlo colled ddiamheuol arian Ewrop Greadigol ac arian Interreg Cymru-Iwerddon a mynediad at gymryd rhan yn y prosiectau hyn a'u rhwydweithiau. Byddai o fudd cael cyfleoedd ariannu sy’n benodol i Iwerddon ar gyfer Cymru. Ar gyfer sector y celfyddydau a diwylliant, gallai hyn ysgogi arian ar gyfer prosiectau mewn meysydd o flaenoriaeth benodol a restrir o dan y cwestiynau nesaf, ond yn arbennig rydym yn awyddus i ddatblygu prosiect pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac Iwerddon o amgylch cerddoriaeth a theithio cynaliadwy (yn enwedig os yw Manceinion yn llwyddiannus yn ei chais i gynnal WOMEX yn 2024).

 

 

Meysydd o flaenoriaeth ar gyfer cydweithrediad rhwng Iwerddon a Chymru

 

O safbwynt Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru rydym yn blaenoriaethu'r canlynol:

 

14.  Y Celfyddydau ac Iechyd a Lles – cefnogom ni rai o'r llunwyr polisi ac ymarferwyr blaenllaw yng Nghymru er mwyn iddynt ddechrau sgwrs gyda phartneriaid yn

 

Iwerddon yng nghynhadledd Celfyddydau ac Iechyd Meddwl Iwerddon Greadigol yn 2020 ac roedd awydd mawr i rannu eu profiad

 

15.  Dysgu iaith a gwrando. Fel rhan o raglen y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Brodorol 2022-2032, rydym yn cefnogi artistiaid i wrando ar ieithoedd brodorol drwy ein rhaglen Gwrando. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch yn Iwerddon. Mae diddordeb yn sector y celfyddydau Cymraeg yn Iwerddon a chymerodd Cyngor Celfyddydau Cymru ran mewn dirprwyaeth Cyngor Iwerddon-Prydain (is-grŵp ar yr ieithoedd lleiafrifol) i Conamara / Connemara yn 2022  

 

16.  Datblygu llwybrau teithiol cynaliadwy ar gyfer cwmnïau’r celfyddydau perfformio / cerddorion a rhannu ymarfer da megis Menter Celfyddydau Gwyrdd Fforwm Theatr Iwerddon. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn awyddus i'w ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf, o safbwynt cynaliadwyedd, ond hefyd yn edrych ar fodelau teithiol newydd mewn cyd-destun ôl-brecsit

 

17.  Dysgu gan eraill a rhannu syniadau am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

 

18.  Cyfleoedd cyfnewid i bobl ifanc, gan adeiladu ar y gwaith mae'r Urdd wedi ei ddatblygu gyda TG Lurgan

 

19.  Cerddoriaeth – parhau i feithrin y berthynas bwysig o gwmpas:

 

a.      Gorwelion ym mhartneriaeth WOMEX yn 2023, 10 mlynedd ar ôl creu'r bartneriaeth yn WOMEX 13 yng Nghaerdydd

b.      Partneriaeth Lleisiau Eraill Aberteifi ac Other Voices An Daingean / Dingle

c.       Meithrin Cysylltiadau Celtaidd yng Nghyfle Arddangos yr Alban a gŵyl An Oriant / Lorient yn Llydaw

 

 

Cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau seneddol rhwng y Senedd a’r Oireachtas

 

20.  Mae cyfle digynsail i'r Senedd a'r Oireachtas ganolbwyntio ar y cyfle i ddysgu o'r gwelliant a wnaed gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2015 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a wnaeth Diwylliant yn bedwaredd golofn datblygiad cynaliadwy. Cymru oedd y genedl gyntaf i wneud hynny a ffrwyth uniongyrchol hyn oedd cael y nod llesiant am Ddiwylliant a'r Gymraeg. Ysbrydolwyd y cam hwn gan yr Agenda 21 ryngwladol - Dinasoedd Unedig a Llywodraethau Lleol.

 

Cyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

17 Chwefror 2023